Mae'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Therapïau Uwch yng Nghymru wedi'i ysgrifennu ar ran pawb sy'n ymwneud â therapïau uwch ledled Cymru.
Mae cyflawni ei amcanion yn cael ei gydlynu trwy Therapïau Uwch Cymru sy'n gweithio mewn partneriaeth a chydweithrediad â phawb sy'n gysylltiedig.
Mae'n nodi'r camau sydd eu hangen i ddatblygu'r sector Therapïau Uwch ledled Cymru, dros y pum mlynedd nesaf gan sicrhau cyd-fynd â pholisïau, amcanion ac uchelgeisiau cenedlaethol.
Mae gan y cynllun bedwar nod
Meithrin ecosystem Therapïau Uwch yng Nghymru
Datblygu llwybrau ar gyfer darparu Therapïau Uwch mewn gofal iechyd
Meithrin capasiti a gallu ymchwil Therapïau Uwch
Darparu pwynt mynediad canolog ar gyfer llywio, gwybodaeth ac ymgysylltu Therapïau Uwch