Beth yw cynnwys cleifion a'r cyhoedd?
Gelwir Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd (PPI) hefyd yn Gynnwys ac Ymgysylltu â Chleifion a'r Cyhoedd (PPIE). Dyma lle mae cleifion sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac aelodau'r cyhoedd yn rhoi o'u hamser i gefnogi ymchwilwyr a phrosiectau ymchwil a hyd yn oed yn dod yn aelodau o grwpiau sy'n ymwneud â chyflyrau iechyd / triniaethau penodol. Gall cleifion fod yn rhai sy'n derbyn triniaeth / gofal ar hyn o bryd neu sydd wedi defnyddio triniaeth a gofal yn y gorffennol. Gall rhai cleifion fod yn cymryd rhan mewn treialon clinigol hefyd. Gall aelodau'r cyhoedd gynnwys perthnasau neu ffrindiau cleifion / cyn-gleifion a phobl sydd â diddordeb mewn rhai pynciau / prosiectau sy'n gysylltiedig ag iechyd a gofal cymdeithasol.
Aelodau PPIE Therapïau Uwch Cymru
Mae gan Therapïau Uwch Cymru ddau aelod o’n Bwrdd Rhaglen sy’n ymroddedig i’n helpu i wneud penderfyniadau a datblygu dogfennau. Chwaraeasant ran hanfodol wrth sicrhau bod llais y claf yn gadarn yn ganolog yn ystod y broses o ddatblygu’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Therapïau Uwch yng Nghymru.
Dyma pam maen nhw'n dewis gweithio gyda ni:
Mae gan gleifion a'r cyhoedd rôl bwysig i'w chwarae wrth sicrhau bod y cyhoedd yn ymgysylltu ac yn cael gwybod am driniaethau newydd. Gallant hefyd helpu i gynllunio darpariaeth triniaeth newydd gan y GIG i wneud yn siŵr ei bod ar gael yn gyfartal i bob claf sydd ei hangen ledled Cymru. Mae ganddynt hefyd rôl hanfodol i'w chwarae mewn ymchwil o gam cynnar ymlaen i brofi bod unrhyw gyffur neu driniaeth newydd yn ddiogel ac yn darparu canlyniad cadarnhaol i gleifion, gydag sgîl-effeithiau y gellir eu rheoli. Mae hyn yn cyflawni'r briff o wneud ymchwil "gyda'r claf yn hytrach nag ar gyfer y claf."
“Mae gan gleifion ac aelodau’r cyhoedd lais pwerus i ddylanwadu ar ddatblygu a chyflwyno triniaethau newydd ar gyfer Therapïau Uwch. Maent yn ffrindiau beirniadol gwerthfawr sy’n cynnig cyfoeth o brofiad, yn enwedig profiadau byw. Mae eu cyfraniadau’n bwrw safbwyntiau ffres, i helpu i arwain ymchwilwyr a darparwyr gofal iechyd i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyfleu mewn ffyrdd hawdd eu deall. Mae parchu cynhwysiant cleifion ac aelodau’r cyhoedd o ystod eang o gefndiroedd amrywiol, yn eu gwerthfawrogi ac yn eu rhoi wrth wraidd cyflwyno rhaglenni.”
Sut gall aelodau PPI gyfrannu?
Mae yna lawer o ffyrdd y mae aelodau PPI yn cyfrannu a dyma rai enghreifftiau o’r rhain;
- Ymateb i holiaduron
- Cymryd rhan mewn cyfweliadau
- Mynychu cyfarfodydd grŵp ffocws
- Dod yn aelodau o bwyllgorau/grwpiau
- Darllen a rhoi sylwadau ar ddogfennau, er enghraifft taflenni gwybodaeth i gleifion
- Mynychu cynadleddau a digwyddiadau
- Helpu i ddylunio taflenni gwybodaeth i gleifion, posteri, gwefannau.
Beth yw manteision bod yn aelod o PPI?
Mae aelodau PPI yn gweithio mewn partneriaeth ag ymchwilwyr, sefydliadau a grwpiau i'w helpu i sicrhau bod gwybodaeth yn hawdd ei deall i bobl gyffredin (pobl heb wybodaeth broffesiynol neu arbenigol am bwnc penodol).
Mae gan gleifion gyfoeth o 'brofiadau byw' gan mai dim ond nhw sy'n gwybod sut beth yw bod yn glaf neu'n aelod o'r cyhoedd sydd wedi cael mynediad at ofal a thriniaethau. Mae aelodau PPI yn gallu cael llais a chael eu gwrando a gallant gynnig cyngor gwerthfawr trwy rannu eu profiadau byw.
Mae aelodau PPI yn teimlo bod ganddyn nhw bwrpas ac yn cael boddhad personol drwy gynnig eu gwasanaethau. Mae gweithgareddau maen nhw'n cymryd rhan ynddyn nhw o fudd i'w helpu i aros yn egnïol ac maen nhw'n teimlo eu bod nhw'n rhoi rhywbeth yn ôl.
Mae'n gyfle gwych i ddysgu am bethau newydd a chwrdd â phobl. Gellir talu aelodau PPI am eu cyfraniadau hefyd os dymunant.
Pa brofiad sydd ei angen arnaf?
Yn gyffredinol, nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o fod yn aelod o PPI arnoch. Eich profiad bywyd a'ch diddordeb eich hun sy'n bwysig.
Gallwch ddysgu am feysydd ymchwil eraill drwy ymweld â gwefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru .