Ar hyn o bryd mae 14 o therapïau uwch yn cael eu hargymell i'w defnyddio yn y DU gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE)

Mae pob therapi ar gael i gleifion Cymru, ond nid yw pob un ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd – efallai y bydd angen teithio i ganolfannau arbenigol mewn mannau eraill yn y DU.

Rhestrir isod y cyflyrau y gall yr ATMPs hyn eu trin, ynghyd â dolenni i wefan NICE lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am bob un.

Byddwn yn parhau i ychwanegu at y rhestr hon wrth i ATMPau newydd ddod ar gael. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, isod mae dolenni i rai sefydliadau a all roi cymorth a chyngor am y cyflyrau hyn. Gallwch hefyd anfon e-bost atom am ragor o wybodaeth.