Beth yw Therapïau Uwch?
Advanced Therapies, also known as Advanced Therapy Medicinal Products (ATMPs) are medicines or treatments that are offered to patients to treat specific diseases. These therapies work by using cells, genes or tissue engineering to treat diseases, and in some cases, accelerate the body’s natural ability to repair itself. They offer new opportunities for the treatment of disease and injury and work by repairing, replacing or deactivating faulty genes, or by introducing new, healthy cells into a patient’s body to replace or repair damaged cells or tissues.
Ar gyfer pa fathau o afiechydon y defnyddir Therapïau Uwch?
Defnyddir Therapïau Uwch i drin afiechydon a all achosi niwed a/neu newidiadau i strwythurau yng nghelloedd, genynnau neu feinweoedd y corff. Dyma rai enghreifftiau o'r afiechydon hyn:
• Canserau.
• Anhwylderau genetig fel hemoffilia a chlefyd cryman-gelloedd.
• Cyflyrau hunanimiwn fel arthritis gwynegol.
• Cyflyrau Niwrolegol e.e. Clefyd Parkinson.
Dim ond ychydig o enghreifftiau yw’r rhain – mae yna lawer o rai eraill hefyd.
Mae pedwar math o ATMPs
Therapïau Genynnau
yn cynnwys trosglwyddo deunydd genetig i gelloedd corff claf i drin achos sylfaenol clefyd penodol. Gall hyn gynnwys ychwanegu, tynnu neu newid DNA'r claf, a gelwir hyn yn dechnoleg golygu genom.
Therapïau Celloedd Somatig
yn cynnwys trosglwyddo celloedd byw, cyfan i glaf i helpu i leihau neu wella clefyd. Gall y celloedd darddu o gelloedd y claf ei hun (awtologaidd) neu o roddwr (alogenig).
Cynhyrchion Peirianyddol Meinweoedd
yn cynnwys adfywio, disodli neu atgyweirio celloedd, meinweoedd neu organau dynol i adfer neu sefydlu swyddogaeth arferol. Mae enghreifftiau cyfredol yn defnyddio celloedd y claf ei hun ar gyfer cynhyrchu therapi.
Therapïau Cyfunol
cynnwys celloedd neu feinweoedd sydd wedi'u cyfuno ag un neu fwy o ddyfeisiau meddygol.
Beth yw manteision Therapïau Uwch?
Mae therapïau uwch yn cynnig manteision sylweddol posibl drwy ddarparu triniaethau arloesol ar gyfer clefydau ac anafiadau, ond yn bwysicaf oll maent o fudd i iechyd a lles cleifion. Maent yn cynrychioli newid o driniaethau traddodiadol drwy dargedu achos sylfaenol clefydau yn hytrach na rheoli symptomau yn unig. Gall therapïau uwch arwain at ganlyniadau iechyd cyffredinol gwell i gleifion ar draws ystod o gyflyrau ac mewn llawer o achosion gallant arwain at driniaeth ac iachâd sy'n achub bywydau. Mae'r therapïau hyn yn cyfrannu at reoli clefydau'n well, lleihau symptomau, ac ansawdd bywyd gwell.