Pwy yw Therapïau Uwch Cymru?

Sefydlwyd ein rhaglen gan Lywodraeth Cymru yn 2019 i fod yn rhan o'r Portffolio Meddygaeth Fanwl mewn ymateb i'w Datganiad o Fwriad ar gyfer Therapïau Uwch . Rydym yn cael ein cynnal gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ond mae gennym gylch gwaith Cymru gyfan, gan gysylltu â chydweithwyr ar lefelau'r DU a rhyngwladol.

Fel rhan o'n strwythur llywodraethu mae gennym Fwrdd Rhaglen, gyda dau weithgor rhaglen yn adrodd, un ar gyfer Mabwysiadu ATMPs, a'r llall ar gyfer Datblygu Ymchwil ac Arloesi.

Yn ogystal â chael tîm rhaglen bach, rydym yn ariannu rolau eraill mewn perthynas â datblygu therapi uwch, fel Fferyllydd ATMP, rolau Nyrs Niwroleg Arbenigol ac ati.

Fe wnaethom gydlynu creu'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Therapïau Uwch yng Nghymru i lunio gweithgaredd y 5 mlynedd nesaf ac rydym yn gweithio gyda'r sefydliadau partner dan sylw i gyflawni ei amcanion.

Rydym hefyd yn aelodau craidd o rwydwaith Canolfannau Triniaeth Therapïau Uwch, rhaglen yn y DU, a gydlynir gan Cell and Gene Therapy Catapult, sy'n cyd-arwain Canolfan Triniaeth Therapi Uwch Canolbarth Lloegr a Chymru ynghyd â chydweithwyr o Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Prifysgol Birmingham.

Beth ydym ni'n ei wneud?

  • Darparu sganio'r gorwel a gwybodaeth am sectorau.
  • Arwain ar raglenni blaenoriaeth therapi uwch.
  • Ffurfio partneriaethau strategol.
  • Darparu canolfan adnoddau ar gyfer gwybodaeth ac arweiniad.
  • Dylanwadu ar strategaeth a pholisïau.
  • Hwyluso cydweithio.
  • Cynnal grwpiau gwaith.
  • Darparu hyfforddiant, addysg, digwyddiadau a rhwydweithio.
  • Cefnogaeth i ddatblygu achosion busnes.
  • Sicrhau cyd-fynd â mentrau therapïau uwch ledled y DU.