Bydd treial clinigol newydd, a gynhelir yng Nghaerdydd, yn ymchwilio i'r defnydd o therapi genynnau untro i atal datblygiad y clefyd mewn cleifion â dementia frontotemporal.

Bydd y treial, a gynhelir gan AviadoBio , yn recriwtio cleifion o bob cwr o Ewrop. Y Ganolfan Niwrotherapïau Uwch ym Mhrifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fydd safle llawfeddygol y DU ar gyfer y treial, gan mai'r ganolfan yw'r unig le yn y DU a all gyflenwi cyffuriau'n uniongyrchol i'r ymennydd dynol mewn sganiwr MRI ar gyfer triniaeth fanwl gywir a delweddu amser real.

Nod yr astudiaeth glinigol hon yw dysgu am gynnyrch therapi genynnau ymchwiliol o'r enw AVB-101, sydd wedi'i gynllunio i drin clefyd o'r enw Dementia Frontotemporal gyda Mwtaniadau Progranwlin (FTD-GRN). Mae FTD-GRN yn ffurf gynnar o ddementia, anhwylder ymennydd blaengar sy'n effeithio ar ymddygiad, iaith a symudiad. Mae'r symptomau hyn yn deillio o lefelau is na'r arfer o brotein o'r enw progranwlin (PGRN) yn yr ymennydd, sy'n arwain at farwolaeth celloedd nerf (niwronau), gan effeithio ar allu'r ymennydd i weithredu.

Y prif gwestiynau y mae'r astudiaeth yn anelu at eu hateb yw:

  • A yw triniaeth untro gydag AVB-101 yn ddiogel i gleifion â FTD-GRN?
  • A yw triniaeth untro gydag AVB-101 yn adfer lefelau PGRN i lefelau arferol o leiaf?
  • A allai AVB-101 weithio fel triniaeth i arafu neu atal dilyniant FTD-GRN?

Yn yr astudiaeth hon nid oes plasebo (pilsen ffug neu driniaeth a ddefnyddir at ddibenion cymharu), felly bydd pob cyfranogwr yn derbyn triniaeth untro o AVB-101 a ddanfonir yn uniongyrchol i'r ymennydd, gydag asesiadau dilynol am 5 mlynedd.

Dywedodd Suzanne Rankin, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer Rhaglen Therapïau Uwch Cymru :
“Mae’n wych gweld y therapïau uwch hyn yn cael effaith gadarnhaol ar gleifion ledled Cymru. Rwy’n falch bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn parhau i gyfrannu at yr ymchwil gyffrous hon. Mae’n wych gallu cefnogi gwaith mor arloesol, ac rwy’n ddiolchgar i’n hymchwilwyr a’r tîm ehangach sy’n gysylltiedig am eu gwaith caled a’u hymroddiad.”